Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (281) |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 11 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 1 - 3 gan y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 6 eu grwpio. Atebwyd cwestiwn 3 gan y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Gwahoddodd y Dirprwy Lywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys 1
Dechreuodd yr eitem am 15.02
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol am Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio?
Cwestiwn Brys 2
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd): A
wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y pryderon newydd a godwyd gan
berthnasau cleifion Tawel Fan ynghylch cyfathrebu gwael a diffyg
cynnydd o ran ymchwiliadau’r bwrdd iechyd hyd yma?
3 Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad
Dechreuodd yr eitem am 15.24
NDM5818 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi’r Adroddiad
Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y
Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 8
Gorffennaf 2015.
Derbyniwyd y Cynnig
yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
Dechreuodd yr eitem am 15.50
NDM5789
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.
Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
5 Dadl Plaid Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.14
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5817 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y dirywiad ym mhris wrth gât y fferm llaeth a chig oen.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddiwygio'r ardoll cig coch.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) defnyddio'r Rhaglen Datblygu Gwledig i ddarparu cefnogaeth ar unwaith i'r sectorau a'r busnesau yr effeithir arnynt fwyaf;
b) amddiffyn ffermwyr Cymru rhag anwadalrwydd y marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig;
c) gwneud sylwadau brys i Lywodraeth y DU gyda'r bwriad o gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch decach; a
d) gweithio tuag at gynnal blwyddyn genedlaethol bwyd a diod Cymru fel canolbwynt ar gyfer hyrwyddo cynnyrch Cymreig ar lefel ddomestig a rhyngwladol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
16 |
50 |
Derbyniwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
6 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.14
7 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.16
NDM5816 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Atal sgamiau yng Nghymru: camau y gellir eu cymryd i atal pobl rhag bod yn destun sgamiau.
Daeth y cyfarfod i ben am 17.33
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Medi 2015